Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Y Cylch gan Gareth Evans-Jones. Dw i wrth fy modd efo unrhyw beth yn ymwneud â gwrachod, ac nid yw hon yn siomi. Dw i’n licio’r ffaith fod y nofel wedi ei lleoli ym Mangor yn y presennol – mi fedra i weld bob man yn glir yn fy mhen. Tydw i heb ddyfalu’r diweddglo eto, felly mae o’n gwneud yn dda iawn i gadw’r syspens.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd