Ymysg ei gynigion ar gyfer Cymru fwy ffyniannus a theg, awgrymodd Rhun ap Iorwerth bod angen newid y ffordd caiff arian ei ddyrannu o Lundain…

Mae angen cael gwared ar y fformiwla Barnett a rhoi’r gallu i Gymru osod ei bandiau trethi ei hun, yn ôl Rhun ap Iorwerth.

Daeth y sylwadau mewn araith gan arweinydd Plaid Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, ynghyd â thair cynnig arall ar gyfer ffyniant economaidd a chymdeithasol i Gymru.