Stori fer Nadoligaidd gan enillydd y Fedal Ryddiaith 2023, Meleri Wyn James…

‘Efan!’

‘Dyw e ddim yn dod,’ meddai hi’n dawel. Roedd y llysiau gwyrdd yn ffrwtian yn y cefndir.

‘Ddim yn dod? Mae’n Ddolig, wrth gwrs ei fod o’n dod… Alexa, announce: Efan, tyrd lawr fa’ma rŵan!’ Safai Huw o flaen yr aderyn, yn barod i gerfio. Y corff yn frown fel cneuen ac wedi gorffwys. Swynwyd Branwen gan arogl oren, rhosmari a seren anise yn llenwi’r gegin fach.