Bu mwy o drafod eto ar y system bleidleisio newydd y mae’r llywodraeth Lafur, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, yn bwriadu ei chyflwyno cyn yr etholiad Senedd Cymru nesaf. Ac, fel yr adroddwyd yn Golwg, mae’r sylw hwnnw wedi bod yn feirniadol tu hwnt. Dwi fy hun eisoes wedi mynegi dirmyg ati yn y golofn hon ar fwy nag un achlysur, ac ymddengys bod yna ymchwydd yn ein bywyd sifil, academaidd a gwleidyddol y