Mae Elin Wyn Owen wedi rhyfeddu at ddawn canwr-gyfansoddwr 17 oed o’r gogledd…
Aeddfed y tu hwnt i’w blynyddoedd – dyna’r unig ffordd i ddisgrifio artist 17 oed o bentref Brynrefail ger Llanberis sydd newydd ryddhau ei sengl gyntaf.
Yn gynharach eleni, fe gafodd Buddug Jones brofiad newydd wrth gamu i’r stiwdio i recordio. A ‘Dal Dig’ yw’r gân gyntaf o’r sesiynau hynny i weld golau dydd.
A hithau yn cyfansoddi ers pan oedd hi’n saith oed, fe fagodd Buddug mwy o hyder yn ystod y cyfnod clo wrth gael sesiynau un-i-un gyda’r gantores adnabyddus, Alys Williams.
Mae ‘Dal Dig’ yn drac wirioneddol hyfryd sy’n trin a thrafod iechyd meddwl yn aeddfed ac onest, ac mae Buddug yn glamp o dalent ac un i gadw llygaid arni…
‘Dyma’r dechrau…’
Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy’n cael ei drafod fwyfwy pob dydd, ond mae’n rhyfeddod clywed artist mor ifanc yn gallu crynhoi a geirio ei phrofiadau a’i theimladau ei hun ac eraill gyda’r fath aeddfedrwydd – aeddfedrwydd y gall y rhan fwyaf ohonom ond dychmygu oedd yn perthyn i ni yn 17 oed!
Sgrifennodd Buddug ‘Dal Dig’ ar ddechrau’r flwyddyn pan sylweddolodd ar bobol o bob oedran o’i chwmpas yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl. Roedd yn gweld y cyfle i rannu’r teimlad cyffredin hwnnw o rwystredigaeth wrth beidio gwybod sut i helpu’r rheiny sydd mewn poen.
“Mae ‘Dal Dig’ wedi cael ei ddylanwadu gan lot o bethau, ond iechyd meddwl yn enwedig,” eglura Buddug.
“Roedd yna bobol o fy nghwmpas i ar y pryd oedd yn stryglo dipyn, felly ro’n i eisiau rhannu persbectif allanol ohonyn nhw’n stryglo a’r teimlad o frustration o beidio gwybod sut i’w helpu nhw.
“Roedd pobol o gymysgedd o oedrannau o fy nghwmpas yn stryglo – pobol hŷn ac o gwmpas fy oedran i.”
Daw’r rhwystredigaeth yma’n glir wrth iddi ganu:
‘Mae’r byd yn dal i droi ond ti’m yn symud dim,
Dal i orwedd yn dy wely ar ben dy hun,
Dweud bob dim ond gwrthod cyfaddef dim’
A beth yw’r emosiwn wrth i’w seng gyntaf ddod allan?
“Mae’n teimlo’n reit od ei rhyddhau o achos mae gen ti’r build-up yna cyn ei ryddhau o, felly mae o’n rhyfedd ei fod o allan o’r diwedd,” meddai Buddug.
“Ond mae’n gyffrous!
“Gobeithio mai dyma’r dechrau.”
Hawdd yw gweld y cysylltiad rhwng Buddug a’i dylanwadau cerddorol fwyaf, gyda’i geiriau onest yn canu cloch gyfarwydd. Ond rhyfedd ydy sut mae hoff artistiaid eich rhieni yn aros gyda chi, ac yn gallu dylanwadu ar eich cerddoriaeth…
“Dw i’n hoffi Gracie Abrams a Noah Kahan o ran eu geiriau achos maen nhw’n gallu bod yn reit bresennol ac maen nhw hefyd yn mynd i mewn i dipyn o fanylder. Maen nhw’n tynnu o brofiadau personol hefyd, a dw i’n hoffi hynny.
“Ond o ran y gerddoriaeth ei hun, dw i’n hoffi cymysgedd o wahanol artistiaid – hyd yn oed yr artistiaid ro’n i’n gwrando arnyn nhw pan o’n i’n fach hefyd. Roedd dad wastad yn chwarae lot o Norah Jones a phobol fel yna, a dw i’n teimlo bod artistiaid fel yna ro’n i’n eu clywed pan o’n i’n fach yn dylanwadu ar fy ngherddoriaeth.
“Ond dw i’n meddwl mai Gracie Abrams ac Adele yw’r dylanwadau pan mae hi’n dod at y piano.”
Ymddiried yn Alys
Dechreuodd Buddug gyfansoddi’n ifanc iawn, ond yn ystod y cyfnod clo daeth y cysondeb – a hynny’n rhannol ddiolch i’r sesiynau dros Zoom gyda chantores adnabyddus sydd â llais anhygoel.
“Ro’n i bob tro wedi hoffi Alys Williams, yn edmygu ei llais hi ac yn meddwl ei bod hi’n rili cŵl,” meddai Buddug.
“Ac roedd mam yn ei nabod hi gan fod fy mrawd bach yn mynd i’r un ysgol â phlant Alys.
“Felly dw i’n meddwl trwy ôl nhw y tu allan i’r ysgol wnaethon nhw drafod ac wedyn ges i ychydig o wersi fel presant pen-blwydd i ddechrau.
“Wnaeth o ddechrau fel pedair sesiwn yn ystod y cyfnod clo ond wnaeth o droi i mewn i fwy wedyn.
“Roedden ni’n dechrau trwy’r ddwy ohonom yn dewis caneuon efo ein gilydd ac wedyn byswn i’n eu canu nhw a byddai Alys yn rhoi tips ar sut i daro’r nodau uwch a phethau fel yna.
“Roedd hi hefyd yn rhywun roeddwn i’n gallu gyrru caneuon ro’n i wedi eu sgrifennu yn ôl ac ymlaen i… achos mae caneuon wastad yn bethau reit bersonol i fi, felly dydw i ddim yn eu rhannu nhw efo lot. Ond ro’n i’n gallu ymddiried ynddi hi gan ei bod hi’n sgrifennu caneuon ei hun.”
Ers y sesiynau cychwynnol hynny, mae Buddug yn cyfansoddi am bob mathau o brofiadau a phethau sy’n digwydd o’i chwmpas.
“Dw i’n cofio sgrifennu cân am y tro cyntaf pan o’n i’n tua saith oed felly dw i’n meddwl mai pryd hynny wnaeth yr awydd yma godi.
“Ond dw i’n meddwl, dros y cyfnod clo, wnes i ddechrau sgrifennu’n fwy cyson, achos doeddwn i ddim rili’n sgrifennu’n aml cyn hynny.
“Dw i’n dueddol o dynnu o brofiadau personol a phrofiadau pobol eraill o fy nghwmpas i ddechrau. Ac roedd y cyfnod clo yn adeg reit stressful yn ei hun felly dw i’n meddwl ro’n i’n tynnu mwy o’r profiadau ro’n i’n eu cael.
“Weithiau bydd pethau eraill o fy nghwmpas neu yn fy nychymyg yn ychwanegu neu’n dylanwadu ar hyn wrth fynd ymlaen hefyd.”
Yn ôl i’r stiwdio
Yn fuan wedi iddi sgrifennu ‘Dal Dig’, ymunodd Buddug â Recordiau Côsh, sef label Yws Gwynedd. Daeth y cyfle wedyn iddi fynd i stiwdio Ferlas ym Mhenrhyndeudraeth i recordio cwpl o ganeuon gyda’r cynhyrchydd talentog, Rich James Roberts, a ‘Dal Dig’ oedd cynnyrch y sesiynau hynny. Dyma’i thro cyntaf yn recordio mewn stiwdio a mwynhaodd y profiad o gydweithio.
“Ro’n i’n nerfus cyn dechrau ond unwaith ro’n i yna ro’n i’n gweld o mor cŵl gallu gweld o’i gyd yn dod at ei gilydd.
“Wnes i ddod â’r gan i mewn ac roedden ni’n trafod pa fath o vibe ro’n i eisiau iddi.
“Felly ar y piano wnes i sgrifennu’r gân yn wreiddiol, ond roedd o’n cŵl gweld gwahanol offerynnau – doeddwn i methu eu chwarae – yn dod i mewn arni.
“Roedd o’n dda gallu cael mewnbwn efo be a pha fath o bethau fyswn i’n gallu ei ychwanegu i’r gân.”
Bydd Buddug yn dychwelyd i’r stiwdio yn fuan ac mae hi’n gobeithio gallu rhannu mwy o’i cherddoriaeth a dechrau gigio dros y flwyddyn sydd i ddod.
Mae ‘Dal Dig’ ar gael i’w ffrydio nawr