Er i mi raddio fel gwyddonydd, mae’n anodd gennyf gredu fod modd i ni hedfan. Wedi‘r cyfan, mae’r Airbus 320 yn pwyso 77,000 kilogram. Rwy’n cael anhawster cario dau fag Tesco o fŵt y car i’r tŷ. Sut yn y byd, felly, mae modd codi un o awyrennau enfawr EasyJet i’r awyr, a’i chadw yna am oriau – tra’n darparu chicken-wraps i’r teithwyr hapus?