Rhian Cadwaladr sy’n rhoi cyngor i fam sy’n poeni bod ei merch yn mynd allan efo dyn 48 oed sydd eisoes yn dad i ddau yn eu harddegau…

 

Annwyl Rhian,

Mae fy merch yn 27 oed yn annibynnol iawn ac mewn swydd dda yng Nghaerdydd. Y penwythnos diwetha’ roedd hi wedi dod a’i chariad newydd draw i gwrdd â fi a fy ngŵr. Roedden ni’n edrych ymlaen yn fawr at ei gwrdd gan eu bod nhw wedi bod yn canlyn ers tua chwe mis. Ond mi gawson ni dipyn o sioc i ddarganfod ei fod yn 48 oed ac wedi bod yn briod o’r blaen ac efo dau o blant yn eu harddegau. Doedd fy merch heb sôn am hyn a ro’n i’n teimlo’n ddig ei bod hi wedi gollwng hyn arnon ni. Mae’n ddyn neis iawn ac yn amlwg yn meddwl y byd o fy merch ond dw i’n poeni sut fath o ddyfodol sy’n ei hwynebu os ydyn nhw’n priodi – a fydd o eisiau plant neu ydy o wedi penderfynu bod dau yn ddigon? Os ydyn nhw’n cael plant mi fydd o yn hanner cant erbyn cael eu plentyn cyntaf. A sut fydd hi’n ymdopi efo bod yn llysfam i ddau o blant yn eu harddegau? Ches i ddim cyfle i drafod hyn i gyd efo hi pan oedd hi adre a dw i ddim yn siŵr sut i drafod fy mhryderon efo hi. Beth fasach chi’n awgrymu? 

 

Mae bod yn rhiant yn job am oes a tydan ni byth yn stopio poeni am ein plant ac mae hyn yn naturiol a dealladwy. O’u dyddiau cynnar rydan ni’n dychmygu sut ddyfodol y cawn nhw, ac yn dymuno’r gorau iddyn nhw – dymuno’r bywyd delfrydol, hynny yw – y bywyd delfrydol yn ein golwg ni. Ni bia nhw, ein babis ni fyddan nhw am byth, rydan ni’n meddwl.

Ond y gwir amdani ydi – nid y ni bia nhw o gwbl. Cael eu benthyg nhw am gyfnod tra maen nhw’n ddibynnol arnom ni ydan ni, a chyn gynted ag y maen nhw’n dechrau dod o dan ddylanwad y byd mawr, oddi allan i’r cartref maen nhw’n ffurfio eu meddyliau eu hunain. Does gennym ni ddim hawl i fynnu fod ein plant yn dilyn y trywydd rydan ni’n ei ddewis iddyn nhw – boed hynny’n yrfa, y lle maen nhw’n byw neu’r bobol maen nhw’n dewis rhannu eu bywyd efo.

Peidiwch â meddwl, wrth fy nghlywed yn dweud hyn, nad ydw i yn cydymdeimlo efo chi. Mi rydw i yn deall pam ydach chi’n poeni a dw i’n gwybod fod eich pryderon yn dod o le da – yn deillio o’ch cariad at eich merch. Dw i’n amau fod eich merch wedi deall yn iawn na fyddech chi yn rhy hapus efo’r ffaith fod cymaint o wahaniaeth mewn oedran rhyngddi a’i chariad newydd, a dyna pam y bu iddi gadw’n ddistaw am y peth, a pham na roddodd hi ei hun mewn sefyllfa lle y byddech chi wedi cael cyfle i drafod yn iawn efo hi. Dim bod yn ddifeddwl oedd hi ond ceisio osgoi trafodaeth anodd – fyddai, efallai, yn arwain i chi’ch dwy ffraeo a – be bynnag wnewch chi – ceisiwch osgoi hynna.

Dw i yn credu mai camgymeriad mawr fyddai i chi ddangos eich bod yn feirniadol o’i dewis o gymar, gallai hynny fod yn rhywbeth fyddai yn ei gyrru ymhellach oddi wrthych. Yr unig adeg y baswn i’n cynghori unrhyw un i ymyrryd ym mherthynas rhywun arall ydi os oes yna bryder am les y person hwnnw. O be ydach chi’n ddweud, does dim rheswm yn y byd i chi boeni am les eich merch – i’r gwrthwyneb. Rydach chi’n dweud fod ei chariad yn ddyn neis iawn ac yn meddwl y byd ohoni. Diolchwch am hynny – mi fyddai pethau’n waeth i chi petai o’r un oed â hi ond yn ddyn annifyr oedd yn ei thrin yn wael. Byddwch yn falch drosti felly.

Trïwch beidio â phoeni am y dyfodol – rydach chi yn meddwl am briodas yn barod a hwythau ond wedi bod efo’i gilydd ers chwe mis. Pwy a ŵyr beth fydd trywydd y berthynas? Ella fydd popeth drosodd ymhen y mis neu ella y byddan nhw efo’i gilydd am ddegawdau, heb fyth briodi. Y peth pwysig ydi ei bod hi’n hapus rŵan. Mae hi’n swnio’n ferch gall a dw i’n siŵr ei bod hi wedi mynd i mewn i’r berthynas yma â’i llygaid yn agored. Cofiwch hefyd nad ydan ni yn cael dewis efo pwy’r ydan ni’n syrthio mewn cariad. Mae saeth Ciwpid yn gallu taro targed annisgwyl weithiau. Mae rhai yn disgwyl oes am gariad a byth yn ei gael a dw i’n credu fod y rhai sy’n dod o hyd i wir gariad yn lwcus.

Fy nghyngor i chi felly ydi i chi gymryd yr agwedd – ‘os ydi’r ferch yn ei licio fo, dw i’n licio fo’ – a byddwch yn gyfeillgar a chroesawgar.

Os ydi o unrhyw gysur i chi dw i’n adnabod tair merch sydd wedi setlo efo dynion tipyn hŷn na nhw oedd eisoes yn dadau. Mae dwy wedi cael plant efo nhw a’r tri pherthynas yn hapus ac wedi para blynyddoedd. Ac er bod y sefyllfa yma yn anodd i chi ddygymod ag o ar y dechrau fel hyn, fe ddowch chi i arfer dw i’n siŵr – be ydi oed, wedi’r cyfan, ond rhif?!