Ers cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd does yna fawr ddim all wneud soprano o Fae Colwyn yn nerfus eto.

Mae Sioned Gwen Davies yn teithio gyda chynhyrchiad newydd Opra Cymru, Peth Bach ‘di Cawr, drwy gydol mis Hydref.

Bellach yn byw yn Glasgow, mae’r gantores 38 oed wrth ei bodd yn dychwelyd i Gymru a chael gweithio a chymdeithasu yn ei mamiaith.