Mae yn hen bryd i ganeuon y gantores werin boblogaidd fod ar gael unwaith eto, ym marn Gohebydd Celfyddydau Golwg…

Mae cwmni Sain wedi ail-gyhoeddi tri o albymau’r gantores werin nodedig Eirlys Parri ar gyfer y llwyfannau digidol.

Cafodd y tri chasgliad, Cannwyll yn Olau, Yfory a Ffordd y Ffair eu recordio yn ystod 1980au, pan oedd y gantores o Forfa Nefyn yn un o leisiau amlycaf y genedl.