Mae hi’n Ddiwrnod Owain Glyndŵr ddydd Sadwrn yma, ac yn ogystal â chofio’r tywysog enwog fu yn brwydro tros Gymru Rydd, mae criw o Gardis am ddathlu cyfraniad ei fam i’r achos…

Mam y Mab Darogan fydd yn cael ei dathlu ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr yn un o drefi Ceredigion.

Llandysul oedd cartref Elen, Tywysoges Olaf y Deheubarth, ac i nodi’r diwrnod bydd Ffair Elen yn cael ei chynnal yno ddydd Sadwrn – 16 Medi yw Diwrnod Owain Glyndŵr.

A than gyfarwyddyd Eddie Ladd, bydd Ffair Elen yn ail-danio’r traddodiad o ddangos dramâu blynyddol yn Llandysul.

Yn y Ffair fe fydd tua dwsin o ferched lleol o bob oed yn actio rhan y Dywysoges Elen, ac mi fyddan nhw’n piciad o stondin i stondin yn ymweld ag arbenigwyr fydd yn trafod Owain Glyndŵr a’i fam.

Er mwyn creu’r Ffair unigryw hon mae Eddie Ladd wedi cydweithio gyda’r cerddorion Lleuwen Steffan a Mr Phormula, a degau o aelodau eraill o’r gymuned, i ddatblygu darn sy’n dathlu’r ffaith bod Elen wedi’i geni a’i magu yn Llandysul.

Dechreuodd y prosiect celfyddydol yn ystod y pandemig, gyda’r bwriad o ddefnyddio gwaith creadigol i ddod â phobol ynghyd i ddysgu mwy am eu milltir sgwâr a hanes cyfoethog yr ardal.

“Mae Llandysul wastad wedi bod yn lle sy’n brwydro am bob dim, ond mae hynna’n creu egni diddorol sydd i’w ddathlu,” meddai Lleucu Meinir, un o griw PLETHU sy’n trefnu’r sioe.

“Roedden ni’n gweld bod lle i waith creadigol oedd yn dod â phobol at ei gilydd – pob oedran, cefndir, iaith – er mwyn archwilio lle rydyn ni’n byw, be sy’n annog pobol i frwydro, archwilio’n gwreiddiau ni, defnydd iaith.”

Yn 2021, fe wnaeth PLETHU greu cyfres o ffilmiau am yr ardal gyda gwahanol gerddorion, gan gynnwys Eddie Ladd, Euros Lewis, Lleuwen Steffan a Mr Phormula. Roedd lle i ddatblygu’r gwaith hwnnw ymhellach, gan ganolbwyntio’n bennaf ar y theatr. Tan y 1960au, roedd tri grŵp theatr yn Llandysul.

Dathlu menywod

Yr hanesydd John Davies o Landysul wnaeth ddod â chysylltiad Owain Glyndŵr gyda’r dref i’r amlwg, ar ôl iddo sylweddoli tua deuddeng mlynedd yn ôl mai Elen oedd ei fam.

Yn 1404 fe gafodd Glyndŵr ei goroni yn Dywysog Cymru – yr olaf o dywysogion cynhenid y Cymry. Ac am bum mlynedd wedyn roedd Cymru yn annibynnol o Loegr. Ac oherwydd ei safiad a’i frwydr, mae yn dal i gael ei gofio a’i ddathlu gyda’i ddiwrnod arbennig ei hun ddydd Sadwrn yma.

“Fydde Owain Glyndŵr ddim wedi cael ei enwi gan bobol Cymru fel Tywysog Cymru oni bai am ei dad e, a llinach Powys Fadog a’r cysylltiad sydd i lot o lefydd eraill yng Nghymru, a hefyd ei fam e,” eglura Lleucu.

“Mae beth mae Elen yn ei gynrychioli yn anferth.

“Roedd Owain Glyndŵr yn ffigwr cenedlaethol mewn amryw o gylchoedd. [Ac] i rywle fel Llandysul, sydd ddim yn cael ei weld fel lle pwysig o ran unrhyw hanes cenedlaethol, roeddwn i’n meddwl bod e’n ffordd o atgoffa pobol leol ein bod ni’n bwysig, yn haeddiannol o bethau, yn gallu dathlu ein gwreiddiau, yn rhan o beth sy’n mynd ymlaen yn y byd.

“Rydyn ni’n gobeithio bydd dathliad theatrig Cymraeg ar Ddydd Owain Glyndŵr bob blwyddyn nawr i nodi’r hen gwmnïau theatr yma oedd gyda diwrnod penodol yn y flwyddyn i ddathlu theatr.”

Roedd y trefnwyr hefyd yn awyddus i ddod â llawer o fenywod mewn i’r dathliad.

“Rydyn ni’n cofio menywod mewn hanes hefyd. Os ti’n edrych ar hanes Owain Glyndŵr mae gyda ti dipyn o wybodaeth am Gruffydd Fychan, ei dad e,” meddai Lleucu.

“O ran ei fam e, yn y rhan fwyaf o hanes roedd e jyst yn dweud: ‘Tywysoges y Deheubarth’.”

Wrth weithio ar y prosiect, cafodd Lleucu wybod mai ei thaid, y gwleidydd Plaid Cymru enwog Gwynfor Evans, oedd yn gyfrifol am ddechrau dathliad Diwrnod Owain Glyndŵr, mae’n debyg.

“Mae hwnna’n golygu gymaint mwy i fi, a dw i’n cofio tad-cu yn rhannu straeon y tywysogion… mae e fel ryw gylch, sy’n hollol hyfryd.”

Ffair Elen

Daeth y syniad o gynnal Ffair Elen i’r artist dawns Eddie Ladd wrth iddi fynd am dro o amgylch yr ardal gyda John Davies yr Hanesydd.

“Fe wnaeth e ddangos y tir lle oedd e’n meddwl roedd hi’n byw, ac roedd e’n meddwl bod y llys lawr lle mae Gwesty’r Porth nawr,” eglura Eddie.

“Pan oeddwn i lawr yna’n agos at Y Porth, roeddwn i’n meddwl a allwn ni gynnal ryw ddigwyddiad ar y stryd fel cynhyrchiad i ddathlu Elen. Feddyliais i am ffair, hen ffair draddodiadol lle rydych chi’n mynd o un stondin i’r llall.”

Bydd sawl ‘Elen’ mewn gwisgoedd rhwysgfawr ym Mharc Llandysul yn rhedeg y ffair.

“Maen nhw o bob oedran, rhai ohonyn nhw’n fach iawn. Fyddan nhw i gyd lawr ar barc y ffair, nhw sy’n rhedeg y ffair.

“Maen nhw’n tywys yr eitemau i’w stondinau, siarad gyda’r gynulleidfa, helpu’r gynulleidfa i ddeall beth yw’r eitemau yma i gyd a gwneud yn siŵr bod y gynulleidfa’n joio eu hunain.

“Mae e’n dathlu’r rhan ganolog sydd gan ferched yn y gymdeithas yn fan hyn yn Llandysul.

“Maen nhw’n rhedeg pethau, maen nhw’n gwneud sawl swydd, maen nhw’n gofalu ar ôl plant, maen nhw yn ganol ac yn asgwrn cefn i’n bywyd ni ac mae hwn yn dathlu eu bywyd nhw drwy Elen.

“Dydyn nhw ddim yn creu cymeriad o Elen pan maen nhw ar barc y Ffair, nhw yw nhw yn gwisgo gwisg Elen. Does yna ddim ‘ysywaeth’ a ‘henffych’ na dim byd fel yna.”

Bydd croeso i’r gynulleidfa gymryd rhan yn y digwyddiad, fydd yn “ysgafn ei naws”, meddai Eddie Ladd, gan egluro y gall unrhyw un sy’n dymuno “bod yn Elen” fynd mewn i stondinau.

“Er enghraifft, mae yna un stondin lle mae yna hanesydd/seicolegydd, ac mae [y merched yng ngwisg Elen] yn holi fe am bwy ydyn nhw.

“I’n Elenod ni, ac unrhyw un yn y gynulleidfa sydd eisiau bod yn Elen – mynd at yr Hanesydd yw’r dasg neu’r hwyl a holi…

“Dr Rhun Emlyn yw e o Brifysgol Aberystwyth, mae e wedi arbenigo yn Hanes yr Oesoedd Canol yng Nghymru, a bydd e’n gallu tybio ble’r aeth Elen a sôn [am hynny] gyda’r Elen sydd gyda fe yn y stondin.”

Cyn y Ffair, sy’n cychwyn am 5.30 amser te ddydd Sadwrn, bydd murlun o Elen wedi’i greu gan yr artist Meinir Mathias yn cael ei ddadorchuddio yng nghanolfan hamdden Calon Tysul am bump.

Ond mi fydd y dathlu eisoes ar droed ar y nos Wener cynt, 15 Medi, pherfformiad yn yr eglwys gan Gôr Gospel Cymunedol Llandysul am wyth.