Roedd Mark Drakeford ar y Maes ym Moduan ar ddydd Mercher y Steddfod, ac mewn hwyliau da wrth drafod y dyfodol gyda Bwrlwm.

Roedd eisoes yn hysbys nad yw am barhau yn Brif Weinidog yn nhymor nesa’r Senedd, ac ym Mhen Llŷn y datgelodd nad yw am barhau yn Aelod o’r Senedd yn dilyn etholiad 2026.