Bu farw’r gantores Sinead O’Connor yr wythnos ddiwethaf yn 56 oed. Shuhada Sadaqat oedd yr enw Islamaidd wnaeth hi gymryd pan wnaeth hi drosi i Islam. Roedd hi’n un wnaeth fy ysbrydoli yn fawr fel artist. Rhywun wnaeth beryglu ei phoblogrwydd yn y 1990au er mwyn siarad allan am yr Eglwys Gatholig a’r modd y cafodd plant a menywod eu cam-drin yn Iwerddon dros y canrifoedd, a rhywun wnaeth siarad allan am hiliaeth, cefnogi pobl gyda HIV/AIDS a hefyd rhoi dillad i blant traws pan nad oedd yn rhywbe