Mae cerddor fu’n chwarae gydag un o fandiau prif leisydd Y Cyrff wedi troi at weithio ar bodlediadau.

Bu Meic Parry, sydd wedi bod yn gwneud gwaith sain i deledu a radio ers bron i ugain mlynedd, yn chwarae’r gitâr a’r allweddellau i’r Ffyrc, band Mark Roberts wedi i Catatonia a’r Cyrff ddod i ben.

Cafodd podlediad y peiriannydd sain 39 oed am hanes llofruddiaeth Gerald Corrigan, gafodd ei ladd â bwa saeth ar Ynys Môn yn 2019, ei ryddhau’n ddiweddar.