Mae’r grefftwraig Elin Angharad wedi agor siop ym Machynlleth yn gwerthu ei bagiau a beltiau lledr unigryw…

Mae bagiau a beltiau lledr crefftwraig o’r canolbarth i gyd yn cael eu gwneud â llaw, a hynny o’i siop newydd ar stryd fawr Machynlleth.

Dechreuodd Elin Angharad ei busnes tua phum mlynedd yn ôl mewn gweithdy yn y dref, ond mae hi newydd agor siop i werthu ac arddangos ei chynnyrch.