Daeth y Sioe Frenhinol yn ôl yr wythnos hon a sawl gwleidydd wedi cyfnewid eu swyddfeydd a’u siwtiau am gaeau a wellingtons yn Llanfair-ym-Muallt.

Ond, rhwng y cystadlaethau cneifio a thynnu rhaff, bu ychydig o stŵr am gynllun coed newydd Llywodraeth Cymru.

Yn ei hanfod, bwriad y cynllun yw gorfodi ffermwyr i dyfu coed ar 10% o’u tir yn gyfnewid am gymorthdaliadau.