Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Y llyfr sydd wrth erchwyn y gwely ar hyn o bryd ydy For Thy Great Pain Have Mercy on My Little Pain, ond ar ochr y wraig mae o. Mae’r llyfrau ar fy ochr i’n dipyn llai llenyddol. Yr un ar frig y pentwr ar hyn o bryd ydy The Given Day gan Dennis Lehane, ond yr un hen awduron a’r un hen genres sy’n cael eu hychwanegu at y pentwr dro ar ôl tro.