Mae Deio Owen, sydd yn wreiddiol o ardal Pwllheli yng Ngwynedd, newydd gychwyn ar ei swydd newydd yn Swyddog y Gymraeg llawn amser cyntaf Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Er i swyddogion rhan amser fod yn cynrychioli myfyrwyr Cymraeg eu hiaith o fewn yr Undeb ers sawl blwyddyn, nid oedd rôl llawn amser cyflogedig yn bodoli hyd at eleni.

Golyga hyn bod undeb myfyrwyr mwyaf Cymru wedi bod ar ei hôl hi wrth i undebau eraill megis Bangor ac Aberystwyth gyflogi swyddogion llawn amser.