Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf yn y byd yn 2008 ac mae’r sefydliad wedi dod yn un adnabyddus iawn ledled y wlad. Ond beth yn union mae’r teitl yn ei olygu? Catrin Lewis sy’n egluro…

Eleni mae Cymru’n dathlu 15 mlynedd ers dod yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd a bu digwyddiad yn y Senedd ddydd Mawrth yr wythnos hon (11 Gorffennaf) i ddathlu’r achlysur arbennig.