Cefais fy magu yn Sir Drefaldwyn ond roedd fy rhieni o Ddyffryn Nantlle. Cefais fy ngeni yn Copthorne yn yr Amwythig felly nid symud i fyw i Sir Drefaldwyn wnes i. Ac eto, a dyma beth sydd mor ddiddorol am Gymru, rhywsut fe dyfais fyny hefo’r teimlad yma fod ni dal yn ‘bobl ddwad’. Mae’n siŵr mai ni oedd un o’r ychydig rai yn yr ysgol oedd ddim yn perthyn i rywun arall yn yr un ysgol.
gan
Rhys Mwyn