Gwarchod awyr dywyll Eryri ydy gwaith serydd o Ynys Môn sydd newydd sgrifennu llyfr am fendithion y tywyllwch.
Wrth ei gwaith yn Swyddog Awyr Dywyll Parc Cenedlaethol Eryri, mae Dani Robertson yn helpu pobol i weld a mwynhau’r sêr, rhoi sgyrsiau ar sut i osgoi llygredd golau ac arsylwi anifeiliaid y nos.