Mae bragdy sydd dafliad carreg o faes Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni’n disgwyl wythnos brysur eithriadol ddechrau fis nesaf.
Ar eu safle bragu a blasu yn Nefyn, sydd tua thair milltir o gartref y brifwyl ym Moduan, mae Cwrw Llŷn yn gobeithio y bydd eisteddfodwyr yn ymweld â’r bar am beint a chael eu hudo gan gerddorion.