Mae’r cwmni cenedlaethol am gyflwyno wyth cynhyrchiad mewn wyth mis – ac yn ysu i “fynd at y bobol” yn yr Eisteddfod…

Mae Theatr Genedlaethol Cymru newydd gyhoeddi ei rhaglen ddiweddaraf, sef dramâu cyntaf y Cyfarwyddwr Artistig newydd wrth y llyw.

O drafod y rhaglen, mae Steffan Donnelly yn amlwg yn awyddus i gefnogi gwaith gwreiddiol, amserol yn y Gymraeg ynghyd â diddanu’r hen a’r ifanc ac apelio drwy’r trwch. Tipyn o dasg.