Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Rydw i ar fin agor clawr Faith, Hope and Carnage, Nick Cave a Sean O’Hagan. Yn ystod y cyfnod clo ymunais â chlwb darllen. Wedi i ni i gyd fynd yn ôl i weithio roedd hi’n anoddach clustnodi’r amser i godi llyfr. Rydyn ni ar fin ailffurfio’r grŵp oherwydd ein bod yn gweld colli ein gilydd yn ogystal â’r cymhelliad i ddarllen yn gyson. Dyma’r llyfr nesaf ar ein rhestr.