Mae criw Johns’ Boys wedi gwneud cymaint mwy na chanu ar Britain’s Got Talent, gan gynnwys ennill teitl Côr y Byd a chanu cyn un o gemau rygbi Cymru…

Mae ymddangos ar un o sioeau talent mwyaf Prydain wedi newid byd un côr meibion o’r gogledd ddwyrain.

Ers cyrraedd rowndiau cynderfynol Britain’s Got Talent, mae poblogrwydd Johns’ Boys wedi cynyddu’n sydyn ac fe wnaeth holl docynnau eu cyngerdd diweddaraf werthu mewn ychydig oriau.