“Biti bod y lle ddim yn orlawn – mi ddylai o fod”.

Dyna oedd barn un o fawrion y byd ffilm, Rhys Ifans, ar ôl bod yn gwylio cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Pendraw o Wynedd ar y penwythnos.

Dim ond pedwar perfformiad o Creigiau Geirwon a gafodd eu gwneud yng nghanolfan Pontio ym Mangor yr wythnos ddiwethaf, ac mae nifer yn galw iddi fynd ar daith, er nad oes cynlluniau ar droed i wneud hynny.