Ydych chi’n aelod o’r Laptop Class? Dyna be alwodd Elon Musk y bobl hynny sy’n gweithio o gartre.
Ni ddefnyddiodd yr entrepreneur y term fel mynegiant o anwyldeb gan fod e’n ystyried sefyllfa Pobl y Gliniadur i fod yn un anfoesol. Yn ei farn ef, mae gweithwyr o bell yn byw yn ‘la-la land’ wrth ofyn i weithwyr eraill barhau i weithio yn y siopau, yn y tafarndai a ffatrïoedd ac ati, tra eu bod nhw’n rhydd i weithio gartref.