Yn ddiweddar mae Senedd Cymru wedi pleidleisio o blaid datganoli’r cyfrifoldeb tros ddŵr i Gymru, ond beth mae hynny yn ei olygu yn ymarferol?

Mae elfennau hanesyddol grymus wedi amgylchynu’r pwnc o ddŵr yng Nghymru ers cryn amser bellach.

Caiff boddi pentref Capel Celyn yn ôl yn 1965 ei godi yn aml mewn trafodaethau ynghylch datganoli pwerau i Lywodraeth Cymru.