Fe fydd y Bywgraffiadur i Blant yn cynnwys Terrence Higgins, Betty Campbell a Llywelyn ein Llyw Olaf…

Ers mis Hydref 2022, mae Betsan Sion wedi bod yn gweithio ar gynllun y Bywgraffiadur i Blant ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hi yw Swyddog Prosiect y cynllun newydd, sy’n flwyddyn o hyd, ac mae hi ar ganol cynllunio gwefan ar ei gyfer ar hyn o bryd.