Mae’r Gymraeg “yn rhan o’r hyn sy’n diffinio’n cenedl ni”.

Dyna farn enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Daeth Gwilym Morgan, sy’n ddisgybl Lefel A yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf Caerdydd, i’r brig o blith 11 ymgeisydd. Yn rhan o’r gystadleuaeth, bu’n rhaid iddo wneud cyfres o dasgau ar y maes, fel cyfweld â’r beirniaid Gwyneth Price a Rhodri Siôn, gwneud cyflwyniadau addas i’r cyfryngau cymdeithasol, a holi Llywydd y Dydd, y chwaraewr rygbi o Lanymddyfri, Wyn Jones.