Ers colli ei wraig mae gitarydd adnabyddus wedi canfod cysur yn canu a recordio ei ganeuon ei hun…
Mae gitarydd a fu’n rhan o fandiau fel Sobin a’r Smaeliaid a Meic Stevens a’r Band yn y 1980au, wedi rhyddhau tair albwm unigol dros y tair blynedd diwethaf.
Ac ar ei sengl newydd, ‘Yn ôl i Lydaw’, mae Merêd Morris yn adlewyrchu ar ddwy daith i Lydaw yn Ffrainc – un union 40 mlynedd yn ôl gyda Meic Stevens, ac un arall yn fwy diweddar.
Ers colli ei wraig, Denise, ac ymddeol o’i swydd gyda Radio Cymru, mae’r cerddor wedi mynd ati i gyfansoddi ar ei ben ei hun. Daeth yr ysbrydoliaeth wreiddiol i greu ei ganeuon diweddaraf gan ei wraig.
“Wnes i golli fy ngwraig, Denise, i ganser diwedd 2018 – roedd hi wedi bod yn sâl am beth amser – ond person arbennig oedd hi,” meddai Merêd.
“Roedd hi’n dweud: ‘Reit, mae’n rhaid i ti feddwl be ti am wneud ar ôl i fi fynd’.
“A dyna oedd y peth diwethaf ro’n i eisiau gwneud yn y bôn.
“Ro’n i’n arfer chwarae lot mewn bandiau yn yr 80au, fel Meic Stevens a’r Band, Rhiannon Tomos a’r Band, Bwchadanas, Sobin a’r Smaeliaid. A ro’n i’n gwneud dipyn o waith recordio a chynhyrchu recordiau hefyd.
“Felly ar ôl ymddeol o’r BBC fel Peiriannydd Sain, ro’n i wedi adeiladu estyniad ar y tŷ ac wedi gosod stiwdio ynddo.
“Wnes i benderfynu gwneud mwy o recordio a rhyddhau mwy o gerddoriaeth.
“Roedd o’n ail natur bo fi’n gwneud rhywbeth gyda chynhyrchu [cerddoriaeth] ar ôl rhoi’r gorau i weithio, ac roedd o’n fendith i allu mynd yn ôl i gael cerddoriaeth yn rhan fwy canolog o fy mywyd i unwaith eto.
“Mae o’n fodd i fyw ac mae o’n rhoi rhyw strwythur i dy flwyddyn.
“Ti’n meddwl: ‘Reit, trio cael albwm allan yr adeg yma o’r flwyddyn, felly mis Medi mae angen dechrau meddwl am gyfansoddi mwy o ganeuon, ac os ydyn nhw’n dod wedyn mae angen cynllunio ymlaen ar gyfer recordio.
“Mae o wedi dod yn rhyw fath o swydd llawn amser… Dydi’r tâl ddim yn wych ond mae’r boddhad yn fawr.”
Does dim angen dweud bod tair albwm mewn tair blynedd yn brawf o weithgarwch, ond mae’r cyfan yn dod yn naturiol i Merêd.
“Mae’n siŵr bod o fel unrhyw beth – mwyaf mae rhywun yn gwneud, yr hawsaf mae o’n dod,” meddai.
“Wedi dweud hynny, unwaith dw i’n meddwl bod hi’n amser i recordio albwm arall, dydy rhywun ddim yn gwybod os fydd y caneuon yn dod o rywle.
“Ac os fyddan nhw, fyddan nhw’n werth eu recordio?
“Ond dw i wedi bod yn lwcus iawn hyd yma.
“Mae’r caneuon yn parhau i ddod, ond dw i’n gobeithio bydd hynna’n cario ymlaen am ychydig bach eto.”
‘Yn Ôl i Lydaw’
Yn ddiweddar fe wnaeth Merêd ryddhau sengl newydd sbon ar label Madryn, ‘Yn Ôl i Lydaw’. Cân roc egnïol gyda naws werin yw hon, a chafodd ei rhyddhau union 40 mlynedd ers gig gyntaf taith Meic Stevens i Lydaw yn 1983. Bryd hynny roedd Mark ‘Cŵn’ Jones ar y bas, Mark Williams ar y drymiau, ac wrth gwrs, Merêd ar y gitâr, y tri yn cyfeilio i Meic.
Roedd y gig gyntaf honno yn 1983 yn Nhafarn Tŷ Elíse yn Plouyé – tafarn sy’n adnabyddus am ei chyfeillgarwch a cherddoriaeth Geltaidd ac oedd yn cael ei rhedeg gan Gymro Cymraeg o Ferthyr Tudful. A pha daith gan fand roc sydd heb ei hantics?
“Roedd pob mathau o bethau wedi digwydd ar y daith,” cofia Merêd.
“Roedden ni newydd recordio’r albwm Gitâr Yn Y Twll Dan Stâr efo Meic, ac roedd hwnna wedi bod yn dipyn o antur i ddweud y lleiaf.
“Fe aeth Meic ar goll hanner ffordd drwy recordio…
“Roedd o wedi cael blaendal ar ei freindaliadau ac roedd o wedi diflannu i rywle.
“Aethon ni i chwilio amdano fo o gwmpas pybs Bangor a Chaernarfon, cyn dod o hyd iddo fo yn y diwedd a mynd â fo yn ôl i’r stiwdio i orffen yr albwm.
“Dechreuodd y daith – aethon ni drwy’r tollau yn Ffrainc – a bron iawn yn syth wnaeth Stevens a’i ffrind oedd yn gyrru, Mike Santos, ddechrau rowlio spliff.
“Ro’n i’n blwmin lloerig yn gofyn: ‘Be ddiawl ydach chi’n gwneud yn dod â chyffuriau drwy’r tollau?!’
“Beth bynnag, roedd ambell gig yr adeg honno – pan roedd Stevens, dw i’n meddwl, yn dal i drio dod dros y ffaith bod o wedi colli cariad mawr ei fywyd – yn gallu bod yn anodd.
“Roedd ei hwyliau o fyny ac i lawr, felly roedd ambell gig yn hollol wych pan roedd Stevens ar ei orau.
“Ond pan mae o ar ei waethaf, mae hi’n stori arall.
“Cyn un gig fe benderfynodd Meic bod o ddim am wneud y set arferol a bod o am wneud set o ganeuon B-sides Bob Dylan.
“Aethon ni ymlaen a finnau’n sefyll yn wynebu Meic a gweiddi allan y cordiau i Mark Jones ar y bas ac roedd Mark Williams ar y drymiau’n dilyn y gorau fedra fo.
“Doedd o ddim yn sioc enfawr bod y gig ddim yn mynd lawr yn dda iawn.”
Yn ddiweddar aeth Merêd yn ôl i Lydaw gan fod ei ferch, Magali, yn byw yno gydai’i theulu, a bu’n gyfnod o adlewyrchu a myfyrio.
“Ar ôl mynd yn ôl a heb weld hi ers lot, roedd yr holl atgofion o dripiau eraill yn dod i’r cof.
“Sôn am hynny mae’r gân [‘Yn Ôl i Lydaw’], mewn ffordd, a’r cariad sydd wastad wedi bod gen i at Lydaw.
“Roedden ni’n arfer mynd draw ar wyliau pan oeddwn i’n blentyn, efo fy mam a fy nhad, yn eithaf aml, ac wedi bod yno nifer o weithiau dros y blynyddoedd.”
Pedwerydd albwm ar y ffordd
Bydd pedwerydd albwm Merêd Morris allan yn ddigidol ymhen rhyw wythnos, ar 19 Mehefin.
Fe fydd Lonydd Llydaw yn cynnwys y senglau ‘Yn Ôl i Lydaw’ ac ‘Annibyniaeth’.
“Mae yna amrywiaeth o bynciau ar yr albwm,” meddai’r gitarydd sy’n canu.
“Mae nifer o’r caneuon yn sôn am ddylanwad Llydaw, ac mae yna dipyn o ganeuon gwleidyddol am annibyniaeth, ac ambell un arall yn llai gwleidyddol. Ond mae yna ryw is-neges gwleidyddol ynddyn nhw.
“Mae yna ambell gân serch neu angst, ac mae yna un gân, ‘Salema’, sy’n sôn am atgofion o bentref yng ngorllewin Algarve [ym Mhortiwgal], ble roedd fy ngwraig a finnau’n mwynhau mynd ar wyliau.
“O ran y steil, fyswn i’n galw ambell un yn fwy Americana, ambell i gân yn fwy o roc, ac ychydig o funk i ambell un ohonyn nhw.”
Yn cydweithio efo Merêd ar yr albwm newydd mae Elisa Morris o’r band AVANC, sy’n chwarae’r delyn a chanu’r harmoni ar ddau o’r traciau, gan gynnwys ‘Yn Ôl i Lydaw’. Aled Wyn Hughes o Gowbois Rhos Botwnnog sydd ar y bas a Gwyn ‘Maffia’ Jones ar y drymiau.
“Mae o jest yn bleser cael chwarae efo’r cerddorion arbennig yma i gyd,” meddai Merêd.
Mae ‘Yn Ôl i Lydaw’ ar gael i’w ffrydio nawr