Mae blodau, ffrwythau, llysiau, hadau, perlysiau a sbeisys yn mynd fewn i gracers unigryw cwmni o ferched draw yng ngwaelodion Powys…

Ar fwrdd y gegin y dechreuodd cyn-grochenydd greu’r cracers mae hi wedi bod yn eu perffeithio ers bron i bymtheg mlynedd.

Cariad tuag at gawsiau Cymreig arweiniodd Allie Thomas, a’i merch Ella, i arbrofi a chreu Cradoc’s Savoury Crackers o’u cartref yn Aberhonddu.