Bardd a ddaliodd naws ei chyfnod oedd Dorothy Bonarjee, a ddaeth i astudio yn Aberystwyth yn 1912. Ac mae ei cherddi nawr ar gael rhwng dau glawr am y tro cyntaf…

Dorothy Bonarjee oedd y ferch gyntaf, a’r myfyriwr cyntaf o dramor, i ennill y Gadair Farddol yn Eisteddfod y Coleg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, a hynny ym mlwyddyn gyntaf y Rhyfel Mawr.