Mae Fleur de Lys yn ôl gydag albwm fydd ar gael i’w ffrydio ar derfyn yr wythnos hon…

Mae’r caneuon ar gasgliad newydd Fleur de Lys yn mynd i gyfeiriad gwahanol i stwff blaenorol y band, ac yn trafod gwleidyddiaeth, yr iaith, yr economi a mwy…

Mae Rhys Edwards, canwr-gitarydd-cyfansoddwr y band poblogaidd o Fôn, yn cyfaddef nad ydy o’n aml yn trafod y straeon tu ôl i ganeuon y band mewn dyfnder na manylder.