Mae miloedd yn dilyn artist o Abertawe ar instagram…

Mae artist ifanc o Abertawe wedi cael ei swydd ddelfrydol yn dylunio nwyddau’r cartref i Matalan.

Mae Elinor Frances Jones newydd symud i Lerpwl i weithio gyda’r cwmni sy’n gwerthu bob math o ddillad a thrugareddau i’r cartref mewn siopau ar draws gwledydd Prydain.