Mis ers y cyhoeddiad bod Aelodau Senedd San Steffan am weld cynnydd o 2.9% yn eu pacedi pae, daeth i’r fei bod cyflogau Aelodau o Senedd Cymru am godi 3% fis yma.
Mi fydd y cynnydd yn golygu bod AoSau Bae Caerdydd ar £69,958 am eu 12 mis o wasanaeth o rŵan tan fis Mawrth 2024, sef £2,038 yn fwy na’r flwyddyn flaenorol.
Mi fydd yr AoSau sy’n byw yn bell o’r brifddinas hefyd yn gweld cynnydd o 10.1% yn yr arian maen nhw yn cael hawlio am lety – chwarae teg, mae Caerdydd wedi mynd yn le drud i rentu.
Roedd y Bwrdd Taliadau, sy’n annibynnol o Senedd Cymru ac yn penderfynu ar y pethau yma, yn dweud bod y codiadau yn adlewyrchu’r cynnydd mewn chwyddiant a chostau byw.
Sut fydd y codiad cyflog yn effeithio ar y ceffylau blaen?
Mi fydd y Prif Weinidog Mark Drakeford ar £153,033 eleni.
Bydd gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru – Vaughan ‘Mr Economi’ Gething; Jeremy ‘Mr Addysg’ Miles; ac Eluned ‘Ms Iechyd’ Morgan – ar £109,308.
Difyr gweld bod Llywydd y Senedd yn cael mwy na’r gweinidogion sy’n gyfrifol am geisio gwella addysg, iechyd ac economi’r wlad.
Mae Elin Jones ar £114,774.
Ond chwarae teg, mae ganddi ddwy joban ar y gweill – cadw trefn yn y siambr + bod yn Aelod o’r Senedd tros bobl Ceredigion.
Mae’r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn cael £101,656 am arwain yr wrthblaid, ac Adam Price ar £97,284 am arwain trydedd plaid fwya’r Senedd.
Ac mae daearyddiaeth yn chwarae rhan yn yr arian y mae modd ei hawlio am aros yn y Bae.
Mae AoSau y gogledd, y gorllewin a’r canolbarth yn cael hawlio hyd at £11,280 y flwyddyn i aros yng Nghaerdydd, tra bo rhai o gyffiniau Castell Nedd ag Abertawe yn cael hawlio hyd at £7,920.
Fis yma mae cyflogau Aelodau Senedd San Steffan wedi codi 2.9% i £86,584.
Dyna gynnydd o £2,440 ar gyflog y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
Bonclust i’r Blaid Lafur
Rhywbeth arall sy’n cynyddu yng Nghymru wrth gwrs yw Treth y Cyngor.
9.9% yn Sir Conwy, 7.3% yng Ngheredigion, 4.95% yng Ngwynedd a dim ond 1.9% yn Nhorfaen.
Ond draw dros Glawdd Offa mae’r Blaid Lafur Brydeinig yn pwyso am rewi Treth y Cyngor – er nad ydyn nhw wedi gwneud hynny yma yng Nghymru.
Ac mae’r gair “rhagrith” yn dawnsio ar dafodau’r Ceidwadwyr Cymreig.
“Mi bleidleisiodd Llywodraeth Lafur Cymru yn erbyn ein cynnig i gadw Treth y Cyngor yn isel,” meddai Sam Rowlands, llefarydd yr wrthblaid ar Lywodraeth Leol.
“Daeth dau o’r codiadau mwyaf yn Nhreth y Cyngor yng Nghymru – bron i 8% – gan gynghorau Casnewydd a Chaerffili, sydd ill dau yn cael eu rhedeg gan Lafur.
“Hwyrach bod Llafur Prydain yn dweud un peth, ond yng Nghymru ac yn lleol maen nhw yn gwneud y gwrthwyneb yn llwyr.
“Y rhagrith hwn yw’r rheswm na allwn ymddiried yn y Blaid Lafur i gadw trethi yn isel.”