Yr wythnos hon roedd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Môn, ar gefn ei cheffyl ac yn poeri tân, wedi iddi ddod i’r amlwg fod cwmni Avanti wedi cael ymestyn eu cytundeb i redeg trenau’r gogledd.

Ers ei hethol gan y Moniars nôl yn 2019, mae Virginia wedi bod yn edliw fflat-owt am ddiffygion y gwasanaeth trên o Gaergybi i Lundain.

Ac mae’r penderfyniad i adael i Avanti gadw’i threnau ar gledrau’r gogledd, wedi gyrru Virgnia oddi ar y rêls.