Mae yna straeon i gynhesu’r galon a rhai sy’n oeri’r gwaed yn rhan o arddangosfa go arbennig lawr ym Mae Caerdydd…
Hanes y ffoaduriaid wnaeth ddianc yma rhag y Natsïaid ydy testun arddangosfa newydd yn Senedd Cymru.
Ceir hanes plant, diwydianwyr, morynion ac artistiaid ddaeth i Gymru yn y 1930au a’r 1940au yn yr arddangosfa, gan amlygu’r cyfraniad cadarnhaol mae’r ffoaduriaid hynny wedi’i wneud i fywyd a diwylliant y wlad.