Mae pennaeth ysgol gynradd yn y de wedi galw am sefydlu ‘Diwrnod y Llyfr’ ar wahân yng Nghymru yn hwyrach yn y tymor addysg, am ei fod yn cyd-daro ag wythnos dathlu Gŵyl Ddewi.

Heddiw – 2 Mawrth – yw Diwrnod y Llyfr, dathliad a gafodd ei sefydlu gan yr elusen ‘World Book Day’ i annog rhagor o blant, yn enwedig rhai o gefndiroedd difreintiedig, i gael budd o’r arfer o ddarllen er pleser ar hyd eu hoes.