Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Rough Guide Dulyn – am y rheswm syml mod i a’r teulu yn mynd ar wyliau i Ddulyn adeg y Pasg eleni. Dw i am ddysgu mwy am y ddinas, nid dim ond yr ardaloedd twristaidd. Fe fues i efo criw o fyfyrwyr a chydweithwyr o’r cwrs Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid Prifysgol Bangor yn Nulyn ddechrau Ionawr eleni gan ymweld ag ysgol gynradd cyfrwng Gwyddeleg ar gyrion y ddinas a mynd i Sefydliad Addysg Marino. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod Dulyn yn ddinas mor fawr. Mae’n rhyfedd mai dim ond un darn bach o ganol y ddinas rydan ni’n ei gweld pan fyddwn yn mynd am benwythnos gan amlaf.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd

Gwres o’r Gorllewin Ifor Wyn Williams. Dw i’n cofio darllen y nofel hanesyddol hon yn ystod gwersi Cymraeg yn Ysgol Ardudwy Harlech pan oeddwn tua 12-13 oed. Dafydd Fôn Williams oedd fy athro Cymraeg ac roeddwn wrth fy modd gydag elfen hanesyddol y nofel. Roeddwn wastad wedi mwynhau darllen ers pan oeddwn yn blentyn bach ond y nofel hon wnaeth ddeffro fy niddordeb mewn nofelau hanesyddol.

Y llyfr a ddylanwadodd fwyaf arnaf 

Alla i ddim dweud bod unrhyw lyfr wedi dylanwadu arnaf i. Pobol sydd wedi dylanwadu arnaf i fwyaf ac felly, yr hyn dw i’n hoffi eu darllen ydy cofiannau a hunangofiannau. Mae’n hynod ddiddorol gwybod hanes pobol sydd wedi wynebu rhwystrau o bob math ac wedi goroesi a ffynnu. Yr hunangofiant diweddaraf i mi ei ddarllen oedd Y Daith i Adra gan John Sam Jones o’r Bermo oedd yn sôn am y modd y cafodd ei drin a’i gam-drin pan oedd yn iau a’r ffordd y mae wedi gallu symud ymlaen yn ei fywyd.

Y llyfr sy’n hel llwch 

Wuthering Heights gan Emily Brontë. Dw i’n cofio mynd ar wyliau i Swydd Efrog 30 mlynedd yn ôl a phrynu copi o’r nofel ym mhentref Haworth, sef pentref genedigol y chwiorydd Brontës. Dw i’n dal heb ddarllen y llyfr i gyd. Dw i wedi cychwyn sawl tro ond heb ei orffen.

Llyfr yr hoffwn fod wedi’i ddarllen, ond heb wneud

To Kill a Mocking Bird gan Harper Lee. Dw i’n cofio mynd i weld cynhyrchiad arbennig iawn o’r nofel yn Theatr Clwyd beth amser yn ôl a phrynu’r nofel yn fuan wedyn. Ond rhywsut, wedi i mi weld y cynhyrchiad, doedd gen i fawr o awydd darllen y nofel. 

Y llyfr dw i’n troi ato mewn cyfyng gyngor

Pan fydda i mewn cyfyng gyngor neu dan bwysau, fydda i ddim yn tueddu i ddarllen. Yr hyn fydda i yn ei wneud ydy gafael mewn llyfr trwchus o sudoku a chroeseiriau. Wrth eistedd yn gwneud y rheiny, mi fydda i’n llonydd a’r meddwl yn tawelu.

Y llyfr sydd wastad yn codi gwên

Le Petit Prince gan Antoine de Saint Exupery. Dw i’n cofio darllen y llyfr bychan hwn fel rhan o’m cwrs lefel A Ffrangeg gyda fy athro Glyn Williams. Dw i’n cofio gwirioni ar y symbolaeth yn y nofel fach syml hon.

Llyfr i’w roi yn anrheg

Bob Nadolig mi fydda i’n mwynhau rhoi llyfr yn anrheg Nadolig Cymraeg i blant bach, yn enwedig llyfr o straeon amser gwely. Un o’r llyfrau gafodd fy merch pan oedd yn blentyn ifanc oedd Un Noswyl Nadolig gan Myrddin ap Dafydd. Fe wnaeth y stori a’r lluniau ei swyno hi yn llwyr.

Fy mhleser (darllen) euog

Pan fydda i ar fy ngwyliau, rwyf yn hoff iawn o ddarllen nofelau gan Victoria Hislop sydd fel arfer yn sgrifennu nofelau yn seiliedig ar hanes gwlad Groeg. Dw i’n cofio darllen The Island ganddi rai blynyddoedd yn ôl ac yna ymhen ychydig fisoedd mynd ar wyliau i ynys Creta a hwylio draw o Elounda i Spinalonga, ynys y gwahangleifion. Daeth yr holl ddarluniau yn y nofel yn fyw wrth i mi grwydro’r ynys.

Y math o lyfr yr hoffwn ei sgrifennu

Dw i’n hoff iawn o sgrifennu straeon byrion a chystadlu mewn eisteddfodau bychain ac yn y Genedlaethol. Dw i’n edrych ymlaen at gyfnod rhywbryd yn y dyfodol pan fydd gen i fwy o amser i sgrifennu. Fy mreuddwyd fyddai cael cyfrol o straeon byrion wedi’u cyhoeddi.

RHIAN TOMOS

Un o bentref Llandecwyn yn Ardudwy yn enedigol ond mae hi’n byw yng Nghaernarfon ers 25 mlynedd. Astudiodd radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac mae hi bellach yn ddarlithydd Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid ac yn Gyfarwyddwr Materion y Gymraeg yn y Brifysgol ym Mangor. Mae Rhian yn aelod o fwrdd golygyddol Papur Dre, papur bro tref Caernarfon ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Caernarfon sy’n codi arian i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Yn ei hamser hamdden, mae hi’n mwynhau mynydda a chrwydro.