Yr wythnos hon, yr awdur ac actor Rhian Cadwaladr o Rosgadfan ger Caernarfon sy’n rhoi cyngor i chwaer am sut i geisio cymodi gyda’i brodyr ar ôl iddyn nhw ffraeo dros ewyllys eu mam…

Annwyl Rhian, 

Mi wnes i golli fy mam ddwy flynedd yn ôl. Roeddan ni’n agos iawn a dw i’n meddwl bysa’n deg dweud fy mod i wedi treulio mwy o amser efo hi yn y blynyddoedd diwethaf na wnaeth fy nau frawd. Roedd Mam wedi rhannu bob dim yn gyfartal rhwng y tri ohonon ni yn ei hewyllys.

Dros y blynyddoedd, roedd hi a Nain wedi casglu lot o antiques. Roeddwn i yn awyddus i gadw lot ohonyn nhw, fel y ddresal, am ei bod hi yn y teulu ers blynyddoedd maith, ond roedd fy mrodyr eisiau gwerthu bob dim a chael y pres.

Roedd hyn wedi brifo lot ond mi wnes i ddal fy nhir ac mae’r ddresal gen i bellach. Mae’r holl beth wedi achosi i’r berthynas suro rhwng fy mrodyr a fi ac rydan ni braidd wedi siarad efo’n gilydd ers blwyddyn a mwy.

Dw i ddim yn teimlo y galla i faddau iddyn nhw ar hyn o bryd. Beth ddylwn i wneud?

YR ATEB

Mae’n ddrwg gen i glywed am eich colled. Mae’r glec o golli mam yn un fawr a gall anghytuno teuluol ychwanegu yn arw at y boen a’i gwneud hi’n anos fyth i ddygymod â’r sefyllfa. Mae’n rhyfedd i chi yrru hwn ata’i rŵan achos, yn digwydd bod, brawd a chwaer yn anghytuno dros ewyllys eu mam ydi testun y nofel dw i’n gweithio arni.

Dyma destun dw i wedi’i ddewis yn sgil fy mhrofiad fy hun, felly dw i wedi rhoi llawer o feddwl i’r pwnc yma. Un peth sydd wedi fy nharo i wrth i mi wneud fy ngwaith ymchwil ydi pa mor gyffredin ydi ffraeo dros ewyllys. Alla i eich sicrhau chi eich bod chi ymhell o fod ar ben eich hun yn teimlo fel hyn. Dw i wedi clywed straeon tebyg droeon.

Peth rhyfedd felly nad oes canllawiau ar gael i’n helpu drwy adeg anodd fel yma, ond mae o fel petai’r pwnc ychydig yn dabŵ. Tydi pobl ddim eisiau sôn am y peth y tu allan i’r teulu, rhag iddyn nhw swnio’n farus ac yn faterol. Ond fel arfer mae’n sefyllfa llawer mwy cymhleth na hynna.

Mae profedigaeth yn gallu agor y drws i bob math o emosiynau a theimladau – o boen a hiraeth i ddicter, siom, euogrwydd a chenfigen. Gall trafod ewyllys agor hen greithiau ac atgyfodi hen fwganod. Dw i’n gwybod am un brawd a chwaer ddechreuodd ffraeo yn angladd eu mam am rywbeth ddigwyddodd ynglŷn ag ewyllys eu tad bymtheg mlynedd ynghynt. Rhywbeth yr oedd y chwaer yn meddwl oedd wedi cael ei hen setlo ond roedd y brawd wedi stiwio am y peth am flynyddoedd, ac yng ngwres emosiwn y diwrnod mi ferwodd pethau drosodd. Ella na fasa hynna wedi digwydd petai’r ddau wedi siarad yn iawn ar y pryd.

Tybed a oes modd rŵan, a gwres emosiwn wedi oeri ychydig, y medrwch chi a’ch brodyr eistedd i lawr a siarad am y peth? Cyfle i chi i gyd esbonio eich teimladau?

Mae pobl yn gymhleth, a tydan ni gyd ddim yr un fath. Mae’n amlwg fod sentiment yn bwysig i chi – y cysylltiad rhwng pobl a phethau – yr atgofion a ddaw wrth edrych neu deimlo crair oedd yn perthyn i un annwyl. Ond tydi pawb ddim yn teimlo fel hyn ac felly ddim yn deall y rhai sydd. Ella mai dyma’r sefyllfa efo’ch brodyr. Mae pobl yn delio efo pethau ar wahanol gyflymder hefyd. Un ffordd i mi fedru delio efo colli mam oedd i wneud pethau, i weithredu’r hyn oedd rhaid – gweithredu’r ewyllys, sortio’r tŷ ac ati. Dyna fy mhersonoliaeth i am wn i – “dynas wyllt o’r coed” fyddai Mam yn fy ngalw i weithiau! Ond mae fy mrawd yn wahanol iawn, yn llawer mwy pwyllog – a dyna ddechrau’r gwrthdaro.

O gael cyfle i siarad, efallai y byddwch chi’n deall teimladau eich brodyr yn well. Ydyn nhw’n frodyr mawr, wedi arfer edrych ar ôl eu chwaer fach a’u bod nhw wir yn meddwl eu bod yn gwneud y peth iawn? Hwyrach eu bod nhw’n teimlo cenfigen o’r berthynas agos oedd rhyngoch chi a’ch mam? Neu euogrwydd nad oeddan nhw wedi gwneud gymaint hefo hi yn ei blynyddoedd ola’? Tybed oes yna wraig neu bartner yn y cefndir sydd yn dylanwadu arnyn nhw? O ddeall yr hyn sydd yn eu gyrru, efallai y daw maddeuant yn haws.

Hyd yn oed os na wnawn nhw fyth weld pethau’r un fath â chi, na chithau hwythau, hwyrach y byddwch chi i gyd yn teimlo’n well o fod wedi cael dweud eich dweud. Weithiau mae’n rhaid i ni dderbyn nad ydan ni fyth yn mynd i ddeall ein gilydd a fedrwn ni wneud dim ond parchu’r ffaith ein bod ni yn wahanol. Os ydi hynny yn golygu torri cysylltiad o leia’ mi fyddwch yn gwybod eich bod chi wedi trio.

Mam, yn aml, ydi’r glud sy’n dal teulu at ei gilydd a phan mae mam yn mynd tydi o ddim yn anghyffredin i frodyr a chwiorydd ymbellhau. Fel mam, dw i ddim yn licio meddwl am hynna yn digwydd i fy mhlant i, a dw i’n gobeithio y byddwch chithau yn medru cymodi.