Erbyn hyn, rydych chi’n siŵr o weld rhywun yn chwarae offeryn ar ganol drama…

Mae pobol sy’n hoffi mynd i’r theatr yng Nghymru bellach yn eitha’ cyfarwydd â’r syniad o ‘theatr gig’. Maen nhw’n tueddu i fod yn dipyn o sioe, gyda’r cerddorion byw yn rhan ganolog o fwrlwm y ddrama ar y llwyfan.