Mae llwybr un darpar-ddoctor i fyd meddygaeth yn un gweddol anarferol, a hithau wedi gwneud dwy radd Gymraeg cyn newid trywydd.
Y ffordd mae lleiafrifoedd yn cael eu cynrychioli mewn llenyddiaeth Gymraeg oedd testun traethawd ymchwil M.Phil Ffraid Gwenllian, gan edrych ar destunau o’r ganrif ddiwethaf a’r ganrif hon.
Heb feddwl fawr am ei gyrfa, ar ôl astudio Cymraeg, Hanes, Seicoleg a Ffotograffiaeth ar gyfer ei Lefel A, aeth y ferch o Rostryfan ger Caernarfon i astudio ‘Cymraeg Proffesiynol’ yn Aberystwyth cyn mynd ati i wneud y radd uwch.
Er nad ydy hi’n difaru dim, roedd yna ran ohoni wastad wedi bod â diddordeb mewn meddygaeth, ac ar ôl gweithio yn gyfieithydd am gyfnod, penderfynodd nad oedd ganddi ddim i’w golli wrth geisio am le ar gwrs meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Felly, heb fath o gefndir gwyddonol, cafodd le ar gwrs meddygaeth chwe blynedd, oedd yn cynnwys blwyddyn sylfaen mewn gwyddoniaeth, ac mae hi bellach ar ei phumed flwyddyn.
Os am chwilio am gysylltiad rhwng astudio’r Gymraeg a Meddygaeth, mae’n debyg mai diddordeb Ffraid mewn pobol sy’n clymu’r ddau.
“Teitl y traethawd ymchwil [Cymraeg] oedd ‘Gwehilion o boblach: cynrychiolaeth lleiafrifoedd mewn llenyddiaeth Gymraeg’,” eglura Ffraid, sydd bellach yn byw yng Nghaernarfon gyda’i dyweddi, Siôn, ac yn cwblhau ei gradd ym Mhrifysgol Bangor.
“Roedd merched yn un o’r lleiafrifoedd – lleiafrif o ran y ffordd maen nhw’n cael eu trin yn hytrach nag o ran poblogaeth. Wedyn roedd gen ti anableddau, lleiafrifoedd ethnig, y gymuned LHDTC+, ac afiechyd meddwl. Roedd o’n ddiddorol gweld sut oedden nhw’n cael eu trin mewn hen destunau o gymharu efo rhai newydd, a gweld y stereoteipiau.”
Tra bo Ffraid yn dal i gyfieithu yn rhan amser, mae ei bryd ar fod yn feddyg teulu.
“Dw i’n cofio meddwl wrth gyfieithu llawn amser, fyswn i naill ai yn gwneud hyn am weddill fy mywyd, neu fyswn i’n gallu treulio ychydig flynyddoedd yn hyfforddi er mwyn gwneud be dw i eisiau gwneud go-iawn yn y pen draw,” meddai.
“Ond doeddwn i ddim yn berson gwyddonol yn yr ysgol, a dweud y lleiaf, a wnes i fyth feddwl bod o’n mynd i ddigwydd. Doedd o jyst ddim yn gwneud synnwyr. Fe wnes i ryw fath o fyw fy mreuddwydion o wneud hynny drwy fy ffrind i, Guto, aeth i wneud meddygaeth yn syth o’r ysgol ac sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth lwyr i fi. Fe wnaeth o sbarduno fi i fynd amdani yn y pendraw.
“Dw i’n cofio mynd am ginio efo ffrindiau [coleg] Aberystwyth i Betws-y-Coed, a dweud wrthyn nhw fy mod i wedi cael lle ar y cwrs. Er doedd lot ohonyn nhw ddim yn coelio’r peth i ddechrau, roedden nhw mor gefnogol. Roedd yna lot o ddagrau, a dw i eisiau crio’n meddwl am y peth! Dw i’n lwcus iawn o fy ffrindiau.”
Bydd Ffraid yn sefyll ei arholiad ymarferol terfynol eleni, ac er ei bod hi wedi bod ar brofiad gwaith mewn sawl lleoliad dros y blynyddoedd diwethaf, iddi hi, does yna’r un maes o fewn meddygaeth yn cymharu â bod yn feddyg teulu.
“Yn wahanol, efallai, i rai o’r rhai iau sydd wedi mynd mewn iddo fo efo meddwl agored, dw i’n gwneud y cwrs yma’n benodol i gael swydd fel GP ar y diwedd,” meddai Ffraid sy’n 30 oed.
“I fi, does yna ddim un swydd arall sy’n rhoi cyfle i chdi siarad a dod i adnabod dy gleifion a’u teuluoedd nhw. Dw i’n licio’r syniad o allu cynnig gofal o’r crud i’r bedd, os lici di. Dw i’n licio’r elfen jig-so ohono fo, y sgwrs gychwynnol yna ti’n ei chael efo claf a’r casglu gwybodaeth yna i weld be sy’n mynd ymlaen efo nhw, cyn archwiliadau a phrofion a bob dim felly. Maen nhw’n dweud bod y sgwrs gychwynnol yna, os ti’n ei chynnal hi’n iawn, yn gallu arwain chdi at y diagnosis ar ei phen ei hun, a chadarnhad ydy bob dim arall wedyn.”
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae Ffraid wedi bod yn cyflwyno fideos byr ar Hansh yn trafod addysg rhyw, gan gynnwys ymweld â digwyddiadau cymdeithasol prifysgolion Cymru’n profi gwybodaeth myfyrwyr y wlad.
“Mae gen i ddiddordeb mawr mewn iechyd rhyw, ac os fyswn i’n mynd yn GP fyswn i’n bendant yn dewis hwnnw fel diddordeb arbennig,” eglura.
“Ar un llaw, roedd yna uffern o lot o hwyl i gael yn cyflwyno [eitemau Hansh], ond ar y llaw arall roedd o’n ddiddorol, ac ychydig bach yn worrying, be oedd rhai pobol yn dod allan efo! Mae hi mor bwysig codi ymwybyddiaeth, ac roedd hynna’n gwneud o mewn ffordd hwyl.
“Yn gyffredinol, ti’n dysgu nhw i gymryd cyfrifoldeb dros iechyd rhyw eu hunain ond hefyd i siarad yn agored amdano fo a stopio’i drin o fel ryw bwnc tabŵ sy’n gwneud i chdi edrych yn amhroffesiynol neu’n amharchus. Mae hynna’n bullshit llwyr a does yna ddim byd yn gwylltio fi fwy.
“Yn enwedig genod, achos pan mae genod yn cael rhyw neu’n siarad yn agored amdano fo, mae pobol yn fwy tebygol o edrych lawr eu trwynau arnyn nhw na maen nhw efo hogiau. Sy’n beth od iawn, achos mae cymdeithas yn adnabyddus am or-rywioli genod. Unwaith mae genod yn perchnogi eu rhywioldeb a’i ddathlu fo a’i arddel o, maen nhw’n cael eu diystyru fel ‘slags’, ond mae’n hollol iawn i gymdeithas eu gor-rywioli a’u gwrthrychioli nhw ar y strydoedd, mewn ysgolion, mewn llys barn… Mae o’n ffiaidd, ac mae angen cael gwared ar y diwylliant yna.”
Astudio meddygaeth sy’n mynd â’r rhan fwyaf o amser Ffraid ar hyn o bryd, ond mae hi wrth ei bodd yn mynd allan efo’i ffrindiau, ynghyd â dilyn tîm pêl-droed Cymru ar deithiau dramor efo criw ‘Y Wariars’.
“Dw i wrth fy modd efo’r sgyrsiau hungover diwrnod wedyn, lle ti’n llwyddo i roi’r byd yn ei le a siarad gymaint o sens ond ti hefyd yn siarad absolute shit. Fel arall, mae lot o fy amser i ar hyn o bryd yn mynd tuag at stydio, snyglo efo fy nghariad gorjys, Siôn, a threfnu’n priodas ni sy’n digwydd yn 2024.
“Os fyswn i’n gorfod dewis y daith bêl-droed orau, fyswn i’n dweud pan aethon ni i Tblisi yn Georgia, roedd o’n hollol wahanol ac roedd y ffans yn grêt yna. Aethon ni i Baris am gêm gyfeillgar hefyd, yn llythrennol Rhedeg i Baris. Wnaethon ni ddim cael lle i aros, jyst cael ffleit yno, treulio 24 awr yno a dod yn ôl. Profiad gwallgof bost!”