Mae’r Trefnydd Proffesiynol 52 oed yn byw ym mhentref Pentyrch ar gyrion Caerdydd gyda’i gŵr a’i mab.

A’r gyn-athrawes Ymarfer Corff yw arbenigwr Ffasiwn Drefn, y rhaglen newydd ar S4C sy’n helpu pobol i sortio’u stafelloedd gwely a chypyrddau dillad ag ati…

Beth mae Trefnydd Proffesiynol yn ei wneud?

Mae gofynion pob cleient yn wahanol ac felly mae e’n wasanaeth eitha’ bespoke.