Golwg ar arddangosfa amrywiol a bywiog yng Nghaernarfon…

Fe fydd sawl oriel yn cynnal sioeau agored blynyddol, sy’n rhoi cyfle i unrhyw artist anfon eu gwaith i mewn. Bydd panel yna’n dethol y darnau gorau yn eu barn nhw ar gyfer arddangosfa gyhoeddus. Maen nhw’n denu pobol sy’n dechrau ar eu gyrfa ac am fwrw eu gwaith allan i’r byd, ac artistiaid mwy profiadol sydd eisiau osgoi’r drafferth o drefnu arddangosfa unigol. Ac mae yna wobrau gwerth chweil hefyd…