Wrth iddi ddod yn hollwbysig i droi cefn ar fagiau plastig, mae’r hen fasgedi traddodiadol yn cripian nôl i ffasiwn…

Yn ei chartref yn Nyffryn Nantlle, mae cyn-athrawes Dylunio a Thechnoleg yn tyfu coed helyg er mwyn creu tua phedair basged â llaw yr wythnos.

Mae Eirian Muse yn gwerthu ei basgedi dan yr enw Helyg Lleu, ac yn cael pleser o natur ailadroddus y gwaith o wehyddu’r pren.