Ar drothwy rali fawr yng Nghaerfyrddin i bwyso am atal dirywiad y Gymraeg, mae Huw Bebb wedi bod yn edrych ar yr her i’r iaith yn Sir Gâr…

“Dydyn ni ddim yn gwneud dim byd ddigon dramatig, ddigon mawr, ddigon cadarnhaol i newid y sefyllfa, dyna’r gwirionedd”.

Dyna’r rhybudd ar drothwy rali fawr yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn yma (14 Ionawr) lle bydd Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Llywodraeth i weithredu dros yr iaith a chymunedau Cymraeg.