Mae cyfansoddwr a ffermwr o Fachynlleth yn ddiolchgar i gystadleuaeth gyfansoddi S4C am roi hwb i’w yrfa… 

A wyddoch chi mai cyfrinach y gân bop berffaith yw efelychu curiad y galon? Dyma’r math o ffaith a ddysgodd y cyfansoddwr pop Rhydian Meilir Pughe ar ei gwrs meistr yng Nghaerdydd, ac a’i helpodd i sgrifennu un o ganeuon pop gorau’r oes.