Dweud ei ddweud ar stad y byd drwy rap oedd pethau MC Saizmundo yn negawd gynta’r ganrif hon.

Bellach, mae Deian ap Rhisiart yn hyrwyddo Cymru drwy dywys ymwelwyr a phobol leol ar deithiau hanesyddol o amgylch y gogledd.

Mae’r gŵr 44 oed sy’n byw yn Rhosgadfan ger Caernarfon yn gweld ei hun fel “llysgennad bach” i’w wlad, ac yn arwain teithiau i gestyll yn Eryri ac Ynys Môn yn bennaf.