Sioe ffotograffiaeth am ferched dewr yw un ddiweddaraf y Workers’ Gallery yn y Cymoedd…

Fe gafodd arddangosfa luniau ‘Pŵer Pobl’ ei chynnal yn y Workers’ Gallery, Ynyshir, y Rhondda am fis cyn y Nadolig, ac yn y flwyddyn newydd mae yn mynd allan i bob cwr o’r Cymoedd.

Mae’r sioe yn cynnwys gwaith gan 14 o ffotograffwyr benywaidd sydd wedi bod yn tynnu lluniau gorymdeithiau a phrotestiadau ers yr 1980au, er mwyn rhoi cipolwg ar fyd protest drwy sbectol fenywaidd.