Rhoi’r grym a’r wybodaeth i fenywod beichiog deimlo’n gwbl barod i wynebu geni babi – dyna nod Cymraes sydd wedi mudo i ben arall y byd, ond yn dal i gynghori merched ei mamwlad dros y We.

Gydag un o bob tair mam newydd yn dweud eu bod nhw wedi profi genedigaeth trawmatig, mae Lliwen MacRae am wella’r sefyllfa.